Mae nifer o ffynonellau hanesyddol sylfaenol gyda ni fydd yn gymorth ichi ddechrau ar eich gwaith ymchwil. Mae cofnodion mwy arbenigol gyda ni hefyd, megis cofnodion yr heddlu a’r tlotai.
Mae’n swyddfa ni yn Adeilad Morgannwg, Canolfan Dinesig Caerdydd. I gael rhagor o fanylion ynglyn â dod o hyd i ni, ein horiau agor a beth i ddod gyda chi ar eich ymweliad cyntaf, galwch heibio i’n gwefan www.glamro.gov.uk . Yma cewch chi ragor o fanylion ynglyn â’r wybodaeth sy gyda ni ar wahanol bynciau a allai fod o ddiddordeb i chi. Os nad oes modd ichi alw heibio i’r llyfrgell, mae modd inni wneud gwaith ymchwil ar eich rhan am ffi.

Rechabites
Mae’r cofnodion sy gyda ni’n cynnwys y canlynol:
- Mynegai Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol - Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau (1837 i 2001);
- Ffurflenni Cyfrifiad ar gyfer Morgannwg i gyd a’r rhan fwyaf o Sir Fynwy (1841 i 1901);
- Y Mynegai Achyddol Rhyngwladol;
- Ewyllysiau a Chofnodion Profebion (1858 – 1944).
Mae Cofrestri Plwyf gyda ni ar gyfer hen blwyfi Morgannwg. Mae cofnodion hen achosion Anghydffurfiol gyda ni hefyd, gan gynnwys y Crynwyr.
Mae cofnodion pob math o waith gweinyddu yn yr archifdy - yn amrywio o Sesiynau Chwarterol Morgannwg i Gynghorau Cymuned ynghyd â’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnal: ysgolion, cynlluniau rheoliadau adeiladu, tlotai, cartrefi i blant a chofrestri etholiadol o 1840 i’r presennol.














