
Hel eich Achau Hanes Tai Hanes y gymuned
1862 Cofnodion Ysgol
O 1862 ymlaen, roedd gofyn bod penaethiaid yn cadw cofnod o ddigwyddiadau mewn llyfr cofnodi’r ysgol. Gall hyn fod yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn i ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch hanes cymuned leol gan eu bod nhw’n cadw cofnod am achlysuron arbennig megis penblwyddi capeli, ffeiriau lleol yn ogystal â streiciau ac anghydfodau diwydiannol a oedd yn effeithio ar y plant.

I gael rhagor o wybodaeth, galwch heibio i wefan Archifdy Morgannwg:
www.glamro.gov.uk