Mae’r cyhoeddiadau blynyddol yma’n rhestru pawb yn y cartref a gofrestrodd i bleidleisio. Does dim cofrestri etholiadaol ar gyfer 1915 - 1917, ac 1941 - 1944.
Mae Cofrestri Etholiadol yn adnodd defnyddiol iawn i haneswyr sy’n hel eu hachau neu haneswyr lleol, ac, yn amlach na pheidio, yn cael eu defnyddio ar gyfer:
-
Dod o hyd i unigolion sydd ar goll
-
Cael gwybod am ba mor hir mae teuluoedd wedi bod yn byw mewn cyfeiriad
-
Cael gwybod sawl un yn y ty oedd a hawl i bleidleisio
-
Mae cofrestri syín dyddio cyn 1918, yn gallu arwyddo sefyllfa economaidd y sawl oedd yn pleidleisio.
I gael rhagor o fanylion am itemau sy’n cael eu cadw yn llyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci a chael gwybod ble mae’r llyfrgelloedd a’r oriau agor, galwch heibio i wefan gwasanaeth y llyfrgelloedd: www.rhondda-cynon-taff.gov.uk/Libraries
Neu wefan Archifdy Morgannwg:
www.glamro.gov.uk