Hel eich Achau  Hanes Tai   Hanes y gymuned

Cofnodion y Cyfrifiad (1841 – 1901)

Dyma un o’r ffynonellau gorau ar gyfer dechrau ymchwilio i hanes eich teulu. Os dewch chi o hyd i aelod o’ch tylwyth bydd modd ichi gael llawer o wybodaeth ynglyn a fe ac ynglyn a phawb yn y cartref, gan gynnwys:

  • Enw llawn
  • Perthynas i’r penteulu
      (heblaw am  1841)
  • Union oed (heblaw am 1841 lle mae   oedran pawb dros 15 oed yn cael ei   nodi i’r 5 mlynedd agosaf)
  • Statws priodasol
  • Gwaith
  • Man geni (heblaw am 1841)

I gael rhagor o fanylion am itemau sy’n cael eu cadw yn llyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci a chael gwybod ble mae’r llyfrgelloedd a’r oriau agor, galwch heibio i wefan gwasanaeth y llyfrgelloedd: www.rhondda-cynon-taff.gov.uk/Libraries

Neu wefan Archifdy Morgannwg: www.glamro.gov.uk