Hafan Gwasanaeth yr Amgueddfeydd
Beth am droedio llwybrau’ch hanes trwy alw heibio i un o’ch amgueddfeydd lleol? Bydd ein harddangosfeydd yn ysbrydoli’ch ymchwil.

Cynon Valley Museum & Gallery Rhondda Heritage Park
Galwch heibio i Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda i gael cipolwg ar fywyd bob dydd pobl y cymoedd dros y ddau gan mlynedd diwethaf.
Yr unig olion mae’n cyndeidiau wedi’u gadael yn aml ydy’r nwyddau a’r offer roedden nhw’n eu defnyddio yn y cartref, yn y gwaith neu yn ystod eu horiau hamdden. Weithiau darnau o offer mawr fydd y rhain, megis peiriant. Dro arall rhywbeth bach fyddan nhw megis modrwy.
Mae’n hamgueddfeydd yn casglu trysorau mawr a mân ein cyndeidiau fel bo modd i’r cenedlaethau sydd i ddod eu mwynhau.
Galwch heibio i fwrw golwg dros ein ffilmiau, ffotograffau, arteffactau gwreiddiol a chlywed hanesion o lygad y ffynnon - fel bo modd i chithau ddeall
sut beth oedd hi i fyw yn y Cymoedd yn yr oes a fu.
Cynon Valley Museum & Gallery
Rhondda Heritage Park












