Route to your Roots.co.uk
EICH HANES AR FLAENAU'CH BYSEDD
|
Mae nifer o ffynonellau hanesyddol sylfaenol gyda ni fydd yn gymorth ichi ddechrau ar eich gwaith ymchwil. Mae cofnodion mwy arbenigol gyda ni hefyd, megis cofnodion yr heddlu a’r tlotai. Mae’n swyddfa ni yn Adeilad Morgannwg, Canolfan Dinesig Caerdydd. I gael rhagor o fanylion yngl?n â dod o hyd i ni, ein horiau agor a beth i ddod gyda chi ar eich ymweliad cyntaf, galwch heibio i’n gwefan www.glamro.gov.uk . Yma cewch chi ragor o fanylion yngl?n â’r wybodaeth sy gyda ni ar wahanol bynciau a allai fod o ddiddordeb i chi. Os nad oes modd ichi alw heibio i’r llyfrgell, mae modd inni wneud gwaith ymchwil ar eich rhan am ffi. Mae’r cofnodion sy gyda ni’n cynnwys y canlynol:
Mae Cofrestri Plwyf gyda ni ar gyfer hen blwyfi Morgannwg. Mae cofnodion hen achosion Anghydffurfiol gyda ni hefyd, gan gynnwys y Crynwyr. Mae cofnodion pob math o waith gweinyddu yn yr archifdy - yn amrywio o Sesiynau Chwarterol Morgannwg i Gynghorau Cymuned ynghyd â’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnal: ysgolion, cynlluniau rheoliadau adeiladu, tlotai, cartrefi i blant a chofrestri etholiadol o 1840 i’r presennol. Mae cofnodion yr heddlu, cofnodion ysbytai, cofnodion llongau a chofnodion morwrol gyda ni ynghyd â llawer o gasgliadau yngl?n â gwaith y diwydiant glo a busnesau a gweithgareddau masnachu eraill yn eich ardal. Mae teuluoedd, ystadau a llawer o unigolion wedi rhoi eu cofnodion inni fel bo modd i eraill eu defnyddio. Mae llawer o’r casgliadau yma’n cynnwys ffotograffau a lluniau eraill. Mae gyda ni fapiau o Rondda Cynon Taf a Morgannwg i gyd o’r ddeunawfed ganrif i’r ugeinfed ganrif. Rydyn ni’n ceisio gofalu bod lle i bob un o’n ymwelwyr ond weithiau bydd hi’n gyfyng arnon ni. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n archebu lle ymlaen llaw ac yn rhoi gwybod inni beth hoffech chi fwrw golwg drosto cyn ichi alw heibio gan fod angen inni wybod ymlaen llaw os ydych chi eisiau bwrw golwg dros amryw o’n cofnodion. Rydyn ni’n codi tâl bychan am ddefnyddio’r offer microffilm a microfiche. Mae modd ichi chwilio cofnodion ar Rwydwaith Archifau Cymru hefyd:-www.archivesnetworkwales.info |
The Welsh Assembly Government Homepage
Glamorgan Record Office Homepage