Route to your Roots.co.uk

EICH HANES AR FLAENAU'CH BYSEDD

Hafan

Croeso

Llyfrgelloedd

Archifdy

Amgueddfeydd

Hel eich achau

Hanes Tai

Hanes y Gymuned

Cysylltau

 

Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf

Rydyn ni’n casglu deunyddiau ar bob agwedd o’ch ardal ac yn eu cadw ar gof a chadw fel bo modd ichi’u defnyddio nhw wrth ymchwilio.

Yn wahanol iawn i wasanaethau llyfrgelloedd eraill, does dim un llyfrgell ganolog gyda ni.  Yn hytrach na hynny, mae 3 o lyfrgelloedd mwy sylweddol gyda ni yn Aberdâr, Pontypridd a Threorci.

 

Mae adran gyfeirio ym mhob un o’r llyfrgelloedd yma sy’n cynnwys casgliadau o astudiaethau lleol ar gyfer yr ardal.  Bydd llyfrgell Aberdâr yn casglu deunyddiau yngl?n â Chwm Cynon; llyfrgell Pontypridd yn casglu deunyddiau yngl?n â Thaf
Elái a Threorci yn casglu deunyddiau yngl?n â Chwm Rhondda.

Mae’r rhestr ganlynol yn nodi’r adnoddau yn y casgliadau astudiaethau lleol sy’n cael eu defnyddio’n fwyaf aml.  I gael disgrifiad mwy manwl o’r adnoddau sy ar gael, galwch heibio i wefan y llyfrgell.

Cofnodion y Cyfrifiad: Dyma un o’r ffynonellau gorau ar gyfer dechrau ymchwilio i hanes eich teulu.  Os byddwch chi’n dod o hyd i aelod o’ch teulu bydd modd ichi gael llawer o wybodaeth yngl?n â fe ac yngl?n â phawb yn y cartref gan gynnwys:

  • enw llawn;
  • perthynas i’r penteulu; ( heblaw am 1841);
  • union oed; (heblaw am 1841 lle mae oedran pawb dros 15 oed yn cael ei nodi i’r 5 mlynedd agosaf)
  • statws priodasol;
  • swydd;
  • man geni. (heblaw am 1841)

 

I ofalu bod gofynion cyfrinachedd yn cael eu parchu does dim modd bwrw golwg dros gofnodion cyfrifiad hyd nes bod 100 mlynedd wedi mynd heibio.

Cyfrifiad 1901 ydy’r cyfrifiad diweddaraf sy ar gael.

Mae gyda gwasanaeth y llyfrgelloedd gofnodion cyfrifiad ar gyfer 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891 ac 1901 ar ficroffilm neu ficrofiche.

Yn ogystal â chanlyniadau cyfrifiad, mae gan y llyfrgelloedd gymhorthion chwilio, neu fynegai i ganlyniadau’r cyfrifiadau a all fod o gymorth ichi yngl?n â’ch ymchwil. 

Cofrestri Etholiadol

Mae’r rhain yn rhestru pawb yn y cartref a gofrestrodd i bleidleisio.  Mae’r enwau wedi’u nodi yn ôl enw’r stryd a rhif y t? ac nid yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw. 

Does dim cofrestri etholiadol ar gyfer 1915 – 1917  a 1941 - 1944. 

Mae gwasanaeth y llyfrgelloedd wrthi’n rhoi’i gofrestri hanesyddol ar gyfrifiadur.  Bydd y cofnodion yma, y mae modd eu harchwilio’n llawn, ar gael fel byddan nhw’n dael eu cyhoeddi. 

Papurau Newydd Hanesyddol: Mae cyfoeth o wybodaeth werthfawr i’w chael yn “The Rhondda Leader”, “Pontypridd Observer” a’r “Cynon Valley Leader”, gan gynnwys adroddiadau ar farwolaethau, angladdau a phriodasau.

Mae mynegai ar gyfer y papurau newydd mwyaf diweddar ond does dim mynegai ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau lleol.

Mapiau Ordnans: Dyma adnodd defnyddiol ar gyfer dod o hyd i gartref mewn perthynas a’i amgylchfyd.  Os cafodd y t? ei godi ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yna efallai bydd yr amrywiadau rhwng un rhifyn o’r map a’r llall yn gymorth ichi bennu pryd cafodd y t? ei godi.  Mae gwasanaeth y llyfrgelloedd yn cadw copïau o’r Mapiau Ordnans mwyaf (1:2,500 neu 25”), gan gynnwys y rhifyn cyntaf (tua 1870).

Cyfeirlyfrau Byd Masnach: Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth yngl?n â phobl leol, eu swyddi, busnesau a sefydliadau.

 

Route to your Roots Homepage

The Welsh Assembly Government Homepage

Glamorgan Record Office Homepage

Rhondda Cynon Taf Homepage