Route to your Roots.co.uk
EICH HANES AR FLAENAU'CH BYSEDD
Treigl amser
Hel eich Achau
Hanes Tai
Hanes y gymuned
|
Mynegai Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol – Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau (1837 – 2004) Dyma fynegai o enwau personol yn ôl trefn yr wyddor sy’n nodi genedigaethau, marwolaethau a phriodasau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr ers dechrau cofrestri gwladol ar 1 Gorffennaf 1837. Roedd y mynegai’n cael eu diweddaru unwaith bob tri mis o 1837-1983 ar gyfer pob dosbarth - genedigaethau, marwolaethau neu briodasau – a’r cyfresi o gyfrolau chwarterol yn cael eu labelu ag enw’r mis diwethaf ar gyfer pob chwarter - Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Ers 1984, mae’r Mynegai (sydd yn dal wedi’u rhannu’n 3 dosbarth) yn cael eu cyhoeddi unwaith bob blwyddyn gyda phob cofnod yn nodi’r mis a blwyddyn yr enedigaeth, y farwolaeth neu’r briodas. Mae haneswyr sy’n hel ei eu hachau yn gallu gwneud defnydd o’r cofrestri i lunio’u hachau, gan weithio yn ôl o’r presennol i ddechrau cyfnod cofrestri gwladol. I gael rhagor o fanylion am itemau sy’n cael eu cadw yn llyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci a chael gwybod ble mae’r llyfrgelloedd a’r oriau agor, galwch heibio i wefan gwasanaeth y llyfrgelloedd: www.rhondda-cynon-taff.gov.uk/Libraries Neu wefan Archifdy Morgannwg: www.glamro.gov.uk |
2000
1950
1900
1850
1800
1600
The Welsh Assembly Government Homepage
Glamorgan Record Office Homepage